Croeso
Yn Ysgol Pencae rydym yn darparu amgylchfyd diogel, hapus a threfnus ble mae disgyblion yn datblygu parch at eraill, agweddau cyfrifol, hunan ddisgyblaeth, arferion gwaith da, parch at eu hamgylchfyd a balchder yn eu gwaith a’u llwyddiannau.

Cyfarfod Gwybodaeth Bl1-5
Rhieni a Gwarchodwyr o Flwyddyn 1 hyd Flwyddyn 5, dewch i gyfarfod athrawon eich plant a chlywed am y flwyddyn sydd o’u blaenau.
Cyfarfod Gyffredinol CRhA
Croeso cynnes i bawb ymuno yng Nghyfarfod Gyffredinol y Gymdeithas Rieni ac Athrawon sydd yn gweithio mor galed er budd yr ysgol. Rydym yn croesawu syniadau pawb! Dewch yn llu!
Gwasanaeth Drysau Agored
Yn flynyddol, rydym yn croesawu’r gymuned i fwynhau gyda ni yn yr ysgol fel rhan o weithgarwch gweithgareddau Drysau Agored Llandaf. Mae croeso i chi ymuno gyda ni i fwynhau gwasanaeth, i fynd ar daith o amgylch yr ysgol ac i sgwrsio dros baned gyda ni! Dewch yn llu!